Hysbyseb am Etholiad
https://llandybiecc-my.sharepoint.com/:b:/g/personal/dai_nicholas_llandybiecc_wales/EZWoUjQfJCtAqvXDlKOKiZ4B6OAB7pnjkBBgQyQAbzse4w?e=zgPCyF
Pecynnau gardd am ddim i gymunedau efo Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
Serch ei enw mae gan Gyngor Cymuned Llandybie bedair Ward o fewn ei gofal, sef Llandybie, Pen-y-groes, Saron a Heol-ddu, ac mae'r rhain yn eu tro yn cynnwys un ar ddeg o bentrefi ynghyd a phentrefannau yn amrywio o Landybie prysur gyda'i eglwys nodweddiadol, sawl siop fach ac amryw o adnoddau lleol eraill, i Ward wledig Heol-ddu â godre'i mantell yn gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Dros amser bu gan yr ardal ei rhan yn y diwydiant cloddio glo o fewn Wardiau Pen-y-groes, Saron a Llandybie gan gynhyrchu glo carreg o safon uchel iawn. Bu ardal Ward Llandybie yn un o'r canolfannau cynhyrchu calch pwysicaf yng Nghymru, yn ymestyn o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at ganol yr ugeinfed ganrif oherwydd nifer helaeth y chwareli calchfaen fu yn yr ardal.
Gwelir y diwydiannau presennol wedi eu canoli o amgylch ardaloedd Llandybie a Chapel Hendre.